Bydd strategaeth newydd gan Lywodraeth Cymru i daclo unigrwydd a theimlo’n ynysig o fewn y gymuned yn derbyn cyllid o £1.4 miliwn dros y dair mlynedd nesaf.

 Mae Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn lansio ‘Cymunedau Cysylltiedig: strategaeth ar gyfer mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a chreu cysylltiadau cymdeithasol cryfach’ heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 11) – y cyntaf o’i fath yng Nghymru.

Mi fydd yn derbyn £1.4 miliwn o gefnogaeth gan y gronfa unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol dros y tair blynedd nesaf.

Bydd sefydliadau yn ymgeisio am gyfran o’r gronfa i ddarparu ac arbrofi gyda dulliau gwahanol o ddelio gydag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.

Fe fydd y strategaeth newydd yn canolbwyntio ar:

  • Rhoi mwy o gyfleon i bobl ddod i gysylltiad ag eraill
  • Gwella seilwaith cymunedol- mae hyn yn cynnwys cynllunio, tai a thrafnidiaeth
  • Cymunedau cefnogol, gan nodi rhai o’r meysydd lle mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau eisoes
  • Meithrin ymwybyddiaeth a hybu agweddau cadarnhaol, gan gynnwys sut y bydd Llywodraeth Cymru yn codi proffil unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol ac yn lleihau stigma.

Yn ôl arolwg cenedlaethol i Gymru a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn 2017-2018, dywedodd 16% o’r boblogaeth dros 16 oed eu bod yn teimlo’n unig, gyda phobl ifanc yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n unig na phobl hŷn.

“Mae unigrwydd ac ynysigrwydd yn deimladau all ein heffeithio ni ar unrhyw oedran ac mwn unrhyw gyfnod yn ein bywydau. O berson ifanc yn symud i brifysgol neu berson hŷn yn gofalu am anwyliaid,” meddai Julie Morgan.

“Er na fedr y Llywodraeth ddatrys y materion yma ar ei phen ei hun, gallwn helpu i feithrin yr amgylchiadau cywir fel bod cysylltiadau o fewn ein cymunedau yn ffynnu.

“Mae angen newid y ffordd yr ydym yn meddwl am unigrwydd ac ynysigrwydd o fewn y llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus, busnesau, cymunedau ac fel unigolion er mwyn taclo’r broblem.”