Daeth y glaw trwm â llawer o drafferthion i bobol yn ardal Sir Benfro ddoe, gyda’r gwasanaeth tân yn cael eu galw i 30 achos.

Bu’n rhaid i griwiau tân fynd allan i helpu pobol yn eu cartrefi ac yn eu gwaith er mwyn helpu delio â’r dŵr ar ôl diwrnod o law trwm.

Doc Penfro a Aberdaugleddau oedd rhai o’r ardaloedd a effeithiwyd gwaethaf gan lifogydd, ond bu’r criwiau yn delio â thrafferthion oherwydd y dŵr ar draws y sir.

Dywedodd Steve Bryant, pennaeth gwasanaeth tân Sir Benfro, ei fod  yn “falch iawn â’r ffordd y gwnaeth ein criwiau ymateb i’r llifogydd.”

Cafodd yr Uned Gwarchod yr Amgylchedd yn Noc Penfro hefyd eu galw allan i nifer o’r achosion er mwyn lleihau’r niwed amgylcheddol oherwydd y tywydd gwael, a bu’r Gwasanaeth Tân yn cyd-weithio’n agos â’r Uned Cynllunio Argyfwng yng Nghyngor Sir Benfro er mwyn sicrhau llif gwybodaeth i bawb oedd ei angen.

“Roedd ganddo ni gysylltiad cyson â’r Awdurdod Lleol ac Asiantaeth yr Amgylchedd er mwyn sicrhau fod ganddon ni’r wybodaeth berthnasol ynglŷn â’r risg posib,” meddai Steve Bryant, “ac mae hyn wedi bod yn enghraifft wych o’r gwaith tîm sy’n digwydd yn y math yma o sefyllfa.”

Roedd sawl ardal ar draws Cymru wedi derbyn rhybudd llifogydd gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn ystod y glaw trwm ddoe, gan gynnwys Ynys Môn ac ardaloedd arfordirol Gogledd Cymru.