Parhau mae’r trafferthion ar draws Cymru ddydd Llun (Chwefror 10) yn dilyn Storm Ciara dros y penwythnos.
Mae ymdrechion yn parhau i ail-gysylltu’r trydan i gartrefi ar hyd a lled Cymru ac mae 13 rhybudd llifogydd mewn grym.
Mae Cyngor Sir Conwy wedi cyhoeddi y bydd nifer o ysgolion ynghau heddiw gan gynnwys Ysgol Dyffryn Conwy, Ysgol y Creuddyn, Ysgol Penmachno, Ysgol Talhaearn ac Ysgol Eglwysbach.
Yn Sir Ddinbych mae’r cyngor wedi agor canolfan argyfwng yn y ganolfan hamdden ar ôl i Heddlu Gogledd Cymru symud tua 50 o bobol o faes carafanau Spring Gardens a thai yn Stryd y Felin yn Llanelwy.
Mae nifer o ffyrdd yn parhau ynghau a bu’n rhaid i’r heddlu achub gyrrwr lori ar yr A525 ger Wrecsam.
Llanrwst
Mae difrod sylweddol wedi bod yn Llanrwst gyda dŵr afon yn llifo i mewn i nifer o fusnesau a chartrefi yn Stryd yr Orsaf.
“Roedd y dŵr i fyny at fy mhengliniau i… Ers 1998 ’da ni erioed wedi cael llifogydd fel hyn ac mae wir wedi effeithio ni a’r swyddi yma’n go fawr,” meddai Osian Deiniol sy’n aelod o’r teulu sy’n berchen cwmni Blas ar Fwyd yn Llanrwst wrth siarad ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi darogan y bydd problemau teithio’n parhau.
“Tra mae Storm Ciara’n cilio, dyw hynny ddim yn golygu ein bod ni’n dechrau ar gyfnod mwy sefydlog,” meddai’r Swyddfa Dywydd.
“Mae’n mynd i fod yn ansefydlog iawn.”
Trafnidiaeth
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi annog teithwyr i wirio os yw eu gwasanaeth trenau wedi’u heffeithio cyn teithio ddydd Llun.
Mae gwasanaeth Dyffryn Conwy wedi cau gyda gwasanaeth bws rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog yn cymryd ei le, a bydd gwasanaeth bws yn cael ei gynnal o’r Amwythig i Aberystwyth ac o Fachynlleth i Bwllheli.
Mae’n debyg y bydd dwyrain Abertawe a dwyrain Cymru yn profi problemau yfory (Chwefror 11) gyda’r llanw’n codi a gwyntoedd cryfion yn hyrddio’r arfordir dros nos.