Fe fydd meibion Wayne Pivac, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, yn ymuno gyda miloedd o Gymry sy’n teithio i Ddulyn y penwythnos hwn ar gyfer y gêm fawr yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Mae Bradley a Matthew yn byw yn Seland Newydd o hyd, ond wedi teithio i Gymru ar gyfer dwy gêm agoriadol y gystadleuaeth, ynghyd â Claud, partner Matthew.
Mae Bradley yn gobeithio gwneud yn iawn y tro hwn am y siom a gafodd o wylio’r Scarlets, o dan arweiniad eu tad, yn colli ffeinal y PRO14 yn erbyn Leinster yn 2018.
“Chawson ni mo’r canlyniad roedden ni ei eisiau, ond roedd e’n brofiad hyfryd beth bynnag,” meddai wrth golwg360.
“Mae’r bobol yno mor hoff o rygbi ac maen nhw mor gyfeillgar a chroesawgar, felly cawson ni amser arbennig yno.
“Dyma’r tro cyntaf i ’mrawd fod yn Nulyn, felly dw i’n edrych ymlaen at fod yn dywysydd iddo fe.
“Mae gyda fi ambell awgrym ar gyfer pethau i’w gwneud, ond ry’n ni jest wedi cyffroi o gael bod yn rhan o’r awyrgylch hefyd.”
Peint neu ddau o Guinness
Mae Bradley yn cyfaddef nad yw’n fawr o yfwr cwrw, ond fyddai’r un daith i Ddulyn yn gyflawn heb ymweld â ffatri bragu Guinness.
“Dyma’r awgrym mwya’ cyffredin gawson ni.
“Dw i’n fawr o ffan o gwrw fy hun, ond fe wna’i roi cynnig arni gan ’mod i heb wneud y daith honno o’r blaen.
“Ry’n ni wedi cael awgrymiadau ar gyfer tafarnau lle bydd rhai o’r cefnogwyr yn mynd, ac fe awn ni i fod yn rhan o’r awyrgylch a’r canu Cymraeg.
“Ar wahân i Gymru, does dim llawer o lefydd lle gewch chi’r fath awyrgylch gyda’r holl ganu a cherddoriaeth a’r mwynhad ar ddiwrnod gemau, felly bydd hynny’n gyffrous.”