Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, yn dweud nad oes angen defnyddio geiriau fel “casáu” wrth drafod gemau rygbi.
Fe fu yn ymateb i sylwadau Lewis Ludlam, blaenasgellwr Lloegr, sydd wedi bod yn sôn am “gasineb” Lloegr tuag at yr Albanwyr cyn iddyn nhw herio’i gilydd am Gwpan Calcutta ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad dros y penwythnos.
“Maen nhw’n ein casáu ni, ac rydym ni’n eu casáu nhw,” meddai Lewis Ludlam.
Roedd Eddie Jones, prif hyfforddwr Lloegr, hefyd wedi bod yn trafod “bryntni corfforol” cyn y gêm gyntaf yn erbyn Ffrainc yr wythnos ddiwethaf, pan gollodd y Saeson.
Ond yn ôl Wayne Pivac mae “casáu yn air eitha’ cryf, a does dim angen [dweud] hynny o gwbl”.
“Ry’n ni’n siarad am fynd i mewn i’r ffosydd, fel mae pob tîm arall yn ei wneud.
“Ydy, mae’n gamp gorfforol, mae’n gamp ryfelgar ac mae angen y meddylfryd cywir arnoch chi.
“Mae chwaraewyr fel arfer yn ymateb i’r hyn maen nhw’n ei glywed gan staff hyfforddi.”
Gêm fwya’i yrfa?
Er nad yw Wayne Pivac yn awyddus i ddefnyddio geirfa ymfflamychol ar drothwy’r gêm yn erbyn Iwerddon yn Stadiwm Aviva yn Nulyn, mae’n cydnabod mai hon fydd gêm fwyaf ei yrfa, waeth bynnag am y canlyniad.
“Bydd yn gam mawr i fyny o’r hyn ry’n ni wedi’i gael hyd yn hyn,” meddai.
“Dw i’n credu ein bod ni wedi bod yn ffodus iawn o gael gêm y Barbariaid, oedd wedi ein galluogi ni i ddatrys un neu ddau o bethau.
“Aethon ni i mewn i gêm gystadleuol wedyn yn erbyn yr Eidal a nawr, ry’n ni’n wynebu her dipyn mwy [yn erbyn Iwerddon] ar eu tomen eu hunain.
“Mae hyn wedi adeiladu’n dda, ac fe fydd yn brawf go-iawn er mwyn gweld lle’r ydyn ni arni a faint o waith sydd angen i ni ei wneud er mwyn chwarae’r gêm o dan bwysau.
“Maen nhw’n gryf iawn, iawn.
“Dw i wedi bod yn dweud ers y dechrau fod angen i ni ddod ag elfen gorfforol i’r gêm.”