Mae ymgyrchwyr yn benwan bod Llywodraeth Cymru yn gosod targedau ar gyfer hyfforddi siaradwyr Cymraeg i fod yn athrawon, ond yn dweud bod gosod targedau tebyg ar gyfer hyfforddi doctors a nyrsys yn anghyfreithlon.
Mae’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams yn gofyn i golegau hyfforddi athrawon sicrhau bod 30% o’u myfyrwyr yn siaradwyr Cymraeg, a fydd yn gallu mynd yn eu blaenau i addysgu plant drwy gyfrwng yr iaith.
Ond mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi gwrthod cymryd camau tebyg i sicrhau fod cyfran o weithlu’r gwasanaeth yng Nghymru yn medru siarad Cymraeg.
Mae Vaughan Gething yn mynnu bod “sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn gyrff annibynnol… a gwaherddir Gweinidogion Cymru gan statud rhag ymyrryd mewn materion sy’n ymwneud â derbyn myfyrwyr”.
“Mae gosod cwotâu yn anghyfreithlon”
Mae ymgyrchwyr wedi bod yn pwyso am osod targedau ar gyfer hyfforddi’r gweithlu meddygol, fel bod digon o ddoctoriaid a nyrsys ar gael i ddarparu gwasanaethau Cymraeg.
Ond mae’r Gweinidog Iechyd yn gwrthod y syniad o dargedau.
“Mae gosod cwotâu neu ddangos unrhyw fath o ffafriaeth yn anghyfreithlon o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010,” meddai Vaughan Gething.
“Nid yw’r iaith Gymraeg wedi’i chynnwys ar y rhestr o nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ond gallai dangos ffafriaeth tuag ati gael ei ystyried yn enghraifft o wahaniaethu’n anuniongyrchol ar sail hil.
“Mae sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru yn gyrff ymreolaethol, annibynnol ac mae Gweinidogion Cymru wedi’u gwahardd drwy statud rhag ymyrryd mewn materion yn ymwneud â derbyniadau.”
Wfftio’r Gweinidog Iechyd
Mae Gwerfyl Roberts, sy’n gyn-Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor, yn mynnu fod angen targedau er mwyn “datblygu gweithlu iechyd a gofal sy’n adlewyrchu anghenion ieithyddol a diwylliannol Cymraeg pobl Cymru…
“Dim ond wrth osod y Gymraeg wrth wraidd y broses comisiynu a gosod cwotâu ar gyfer recriwtio cyflenwad digonol o ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg ar raglenni proffesiynol, y bydd modd sicrhau fod gweithlu’r dyfodol wedi’i gynllunio ar sail anghenion ieithyddol a diwylliannol Cymraeg pobl Cymru,” ychwanega is-Gadeirydd Grŵp Iechyd Cymdeithas yr Iaith.
“Mae’n siom enfawr i ni, felly, gael deall nad ydych o blaid gosod cwotâu o’r fath a byddem yn ddiolchgar iawn o gael y cyfle i gyfarfod gyda chi er mwyn trafod hyn ymhellach.”
Mwy am hyn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg