Mae S4C wedi dweud heddiw eu bod nhw’n croesawu’r cytundeb newydd gyda’r BBC am ddyfodol y sianel nes 2017.

Daw’r cytundeb ar y gyllideb, ynghyd ag atebolrwydd a threfn lywodraethu S4C tan 2017, yn sgil trafodaeth rhwng Awdurdod S4C, Ymddiriedolaeth y BBC a’r Adran Dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).

Yn ôl datganiad gan S4C, bydd y cytundeb newydd yn “amddiffyn annibyniaeth olygyddol a rheoli S4C tra’n gwarchod atebolrwydd priodol i Ymddiriedolaeth y BBC dros arian o’r ffi drwydded fydd yn cael ei wario ar y gwasanaeth.”

Ddoe, fe gyhoeddodd Ymddiriedolaeth y BBC y gyllideb ar gyfer S4C ar gyfer 2015-2017, gan ymestyn y setliad gwreiddiol rhwng S4C y BBC a’r DCMS hyd at ddiwedd cyfnod y siarter sydd eisoes wedi ei gytuno ar ffi’r drwydded rhwng y BBC a’r DCMS.

Rhai o’r newidiadau pwysig i’r gytundeb llywodraethiant rhwng y BBC ac S4C yw y bydd Ymddiriedolwr Cymru’r BBC yn awr yn dod yn aelodau o Awdurdod S4C ac y bydd gan y Gorfforaeth ran yn y broses o ddewis aelodau’r Awdurdod, ynghyd â Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru.

Cytundeb gweithredol

Bydd S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC hefyd yn sefydlu cytundeb gweithredol ar gyfer S4C, er mwyn gosod amodau’r gwasanaeth.

“Y cytundeb gweithredol,” medd y datganiad, “fydd y ddogfen allweddol er mwyn sicrhau atebolrwydd rhwng Awdurdod S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC a bydd yr Ymddiriedolaeth yn adrodd yn gyhoeddus yn flynyddol ar gyflawniad S4C yn erbyn y cytundeb.”

Mae’r cytundeb hefyd yn golygu y bydd S4C a BBC Cymru yn cydweithio’n agosach mewn meysydd gweinyddol a chefnogol, er mwyn gweithio’n fwy “effeithlon” ac “er mwyn i S4C a BBC Cymru allu gwario mwy o arian ar raglenni.”

Ond fe fydd S4C yn parhau â’u bwrdd rheoli annibynnol eu hunain, a bydd y sianel yn parhau dan arolygaeth Awdurdod S4C, o dan y Cadeirydd Huw Jones.