Mae Plaid Cymru wedi galw ar San Steffan i gadarnhau a fyddan nhw’n cyfrannu’r £7 miliwn ychwanegol at gyllideb  S4C o 2015 i 2017, yn dilyn cyhoeddiad gan y BBC ddoe am gyllideb y sianel.

Mae Rhodri Glyn Thomas AC yn dweud y dylai Adran Ddiwylliant, cyfryngau a chwaraeon Llywodraeth San Steffan nawr wneud cyhoeddiad am y £7 miliwn ychwanegol sydd wedi ei addo i’r sianel yn uniongyrchol gan yr adran hyd at 2015.

“Mae angen i’r Adran Ddiwylliant nawr gadarnhau a fydd y £7 miliwn yn parhau i’r dyfodol,” meddai’r Aelod Cynulliad wrth Golwg 360, “y peth pwysig ar hyn o bryd yw sicrhau’r elfen honno o sefydlogrwydd.”

Mae Bethan Jenkins AC hefyd wedi galw am eglurhad gan y Gweinidog Diwylliant, Jeremy Hunt, am sefyllfa’r arian yn y dyfodol.

“Mae angen i ni wybod beth fydd yn digwydd i gyfraniad y llywodraeth o £7 miliwn yn ystod dwy flynedd olaf y setliad, a beth fydd yn digwydd tu hwnt i’r siarter,” meddai.

‘Croesawu sefydlogrwydd’

Mae sicrhau sefydlogrwydd i S4C yn beth i’w groesawu gan gyhoeddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar lefel gyllideb y sianel ddoe, yn ôl Rhodri Glyn Thomas. Ddoe, fe gyhoeddodd Ymddiriedolaeth y gorfforaeth y byddai cyllideb S4C ar gyfer 2015/16 yn £75.2 miliwn,  a £74.5 miliwn ar gyfer 2016/17.

Mae S4C eisoes wedi cael gwybod y bydd eu cyllid yn gostwng o £76.3 miliwn ar gyfer 2013/14, i £76 miliwn erbyn 2014/15.

“Mae e’n cadarnhau’r sefyllfa ynglŷn â’r dyfodol agos,” meddai Rhodri Glyn Thomas.

Mae llefarydd diwylliant y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Peter Black, wedi croesawu’r cyhoeddiad ddoe.

“Rwy’n credu, o dan yr amgylchiadau, mai dyma’r pecyn gorau posib i’r Sianel, a fydd yn sicrhau parhad yn ei hannibyniaeth, ac yn cynnig sefydlogrwydd yn y gyllideb am beth amser eto.”

Ond mae gan Aelod Cynulliad Plaid Cymru ei amheuon am y cyhoeddiad.

“Mae materion ynglyn ag annibyniaeth S4C yn dal i ’mhoeni i ac eraill,” meddai Rhodri Glyn Thomas.

“Ond mae’r trafodaethau yn parhau rhwng S4C a’r BBC,” meddai’r AC dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Mae disgwyl i S4C wneud cyhoeddiad heddiw yn ymateb i’r gyllideb a gynigwyd gan y BBC ddoe, wedi i Awdurdod y sianel fod yn cyfarfod neithiwr.