Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o arian ar gyfer mynd i’r afael â chynnydd mewn digartrefedd yng Nghymru.
Roedden nhw’n ymateb i ganlyniadau arolwg sy’n dangos bod 17% yn fwy o bobl yn cysgu ar y stryd yn 2019 o gymharu â’r flwyddyn gynt.
Cafodd y cyfri ei wneud dros gyfnod o bythefnos yn ystod mis Hydref, pryd roedd 405 o bobl yn cysgu ar y stryd yng Nghymru o’i gymharu â 347 y flwyddyn gynt.
Dywed arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds: “Os ydym yn ystyried ein hunain yn gymdeithas ofalgar a thosturiol, mae gennym ddyletswydd i ddelio â digartrefedd.
“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i wrando ar sefydliadau fel Cymorth Cymru a chynyddu’r cyllid ar gyfer Grantiau Cymorth Tai yn eu cyllideb derfynol.”