Mae ffermwr o Sir Gaerfyrddin wedi derbyn dirwy o £4,000 wedi i dystiolaeth DNA brofi ei fod wedi dwyn buwch gan ei gymydog, yn ôl yr heddlu.
Roedd David Owens, 51 wedi ail-dagio’r fuwch a’i hawlio ar ôl iddi ddianc o un o gaeau ei gymydog yn Sanclêr, Sir Gaerfyrddin.
Dywed Heddlu Dyfed-Powys mai nhw yw’r gwasanaeth heddlu cyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddefnyddio tystiolaeth DNA o fuwch mewn ymchwiliad heddlu.
Plediodd David Owens yn euog o ladrata yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun (Chwefror 3).
Sylwodd perchennog y fuwch fod un o’i 300 o wartheg wedi cael ei ddwyn ym mis Rhagfyr 2017 ond roedd David Owens yn gwadu mai ef oedd yn gyfrifol.
Cafodd gwarant osod ar gyfer y fuwch, a dangosodd profion DNA fod y fuwch yn cyfateb i wartheg eraill ar y fferm wreiddiol, a cafodd David Owens ei arestio.