Mae dyn o gwm Rhymni sy’n ofni ei fod wedi ei heintio â’r coronavirus yn methu â gadael Wuhan yn Tsieina lle mae’n gweithio fel athro.

Dywed Jamie Morris, 23, o Dredegar Newydd yn meddwl ei fod wedi dal y firws ym mis Tachwedd, cyn i unrhyw sôn am y firws ddod i glyw y cyfryngau.

“Do’n i ddim yn medru dal yr awyrennau diweddar yn ôl i Brydain gan fod fy mhasbort i yn nwylo Llywodraeth Tsieina er mwyn ymestyn fy nhrwydded breswyl,” meddai.

Daw ei bryderon wrth i’r awdurdodau yn y wlad gadarnhau fod nifer o farwolaethau yn Tsieina o ganlyniad i’r coronavirus wedi codi i 425, gyda chyfanswm yr achosion yn 20,438.

Bellach, mae cyfanswm o 94 o ddinasyddion Prydeinig a’u teuluoedd wedi cael eu symud i Brydain o Wuhan, y ddinas yn nhalaith Hubei ble mae tarddiad y clefyd. Fe gyrhaeddon nhw ddydd Gwener a dydd Sul ar ddwy awyren.

“Does gen i ddim syniad pa bryd fydda i’n cael gadael,” meddai Jamie Morris. “Y cyfan mae’r tîm argyfwng yn y Swyddfa Dramor yn Llundain wedi’i ddweud yw imi fod yn amyneddgar ac y byddan nhw’n cysylltu os bydd unrhyw newid.”

Cyfarwyddiadau

Mae ymateb Llywodraeth Prydain i’r argyfwng wedi dwysàu’n gyflym yr wythnos yma.

Ddydd Llun, doedd dim cynlluniau i symud dinasyddion Prydeinig o Tsieina meddai’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock, er iddo ddweud nad ydym ni “wedi gweld y firws yn ei anterth eto o bell ffordd” a’u bod yn disgwyl clywed am fwy o achosion ym Mhrydain.

Erbyn ddoe, dydd Mawrth, cyhoeddodd Dominic Raab, yr Ysgrifennydd Tramor, eu bod yn

cynghori dinasyddion Prydeinig i adael Tsieina os ydyn nhw’n gallu, “er mwyn lleihau’r peryglon o ddal y firws”.