Mae Comisiynydd Plant Cymru’n dweud bod ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 28) yn “ddiwrnod arwyddocaol i hawliau plant Cymru” yn dilyn pleidlais yn y Sendd i wahardd smacio.
Fe gafodd deddfwriaeth gefnogaeth aelodau’r Senedd o 36 o bleidleisiau i 14, wrth i Gymru ymuno â 58 o wledydd eraill sydd eisoes wedi gwahardd y weithred.
Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn dod i rym yn 2022 ar ôl cael caniatâd Brenhines Loegr, ond mae gwrthwynebwyr yn dweud y byddai’n bwrw sen ar rieni ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau cymdeithasol.
Fe fydd ymgyrch codi ymwybyddiaeth eang yn cael ei sefydlu cyn cyflwyno’r ddeddf yn derfynol.
Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn dileu’r amddiffyniad fod smacio yn “gosb resymol”, y tro cyntaf i’r gyfraith droseddol amrywio yng Nghymru a Lloegr, lle bydd hi’n bosib o hyd i rieni smacio’u plant.
Cafodd yr ymgyrch yng Nghymru ei harwain gan Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sy’n dweud nad oes yna’r “fath beth â smac cariadus”.
Ymateb Sally Holland
“Dw i mor falch fod Cymru wedi cymryd y cam hwn ymlaen,” meddai’r Athro Sally Holland ar Twitter.
“Mae’n ddiwrnod arwyddocaol i hawliau plant yng Nghymru.
“Diolch i aelodau’r Cynulliad sydd wedi siarad o’i phlaid ac sydd wedi pleidleisio drosti ac i’r Dirprwy Weinidog Iechyd am arwain.”
Mewn datganiad pellach, mae’n dweud nad yw “fyth yn iawn smacio plant”.
“Dw i mor falch, wrth fy modd ac yn falch fod Cymru wedi ymuno â dwsinau o wledydd eraill o amgylch y byd i roi i blant yr un gofal rhag cosb gorfforol ag sydd gan oedolion.
“Dydy hi byth yn iawn smacio plant.
“Llongyfarchiadau i Lywodraeth Cymru ac i aelodau’r Senedd sydd wedi blaenoriaethu hawliau plant drwy basio’r ddeddfwriaeth hon.”