Mae’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nhaerdydd wedi ffarwelio â Dippy y Diplodocus, cast sgerbwd deinosor enwocaf Amgueddfa Hanes Natur, Llundain, sydd wedi bod yn yr amgueddfa ers mis Hydref y llynedd.
Yn ystod y cyfnod yma croesawodd yr amgueddfa 213,740 o ymwelwyr – cynnydd o 42% i gymharu â’r un cyfnod y flwyddyn gynt.
Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Mae hi wedi bod yn galonogol i weld sut mae’r arddangosfa wedi ysbrydoli ymwelwyr o bob oedran i archwilio, darganfod a dysgu sut allen nhw gymryd rhan a gwarchod natur ar eu stepen ddrws.”
“Ysbrydoli”
Bydd Dippy nawr yn parhau ar ei daith o amgylch amgueddfeydd y Deyrnas Unedig gan ymweld â Rochdale.
“Bwriad Dippy yw ysbrydoli pobl i ddarganfod y byd natur sydd o’u cwmpas,” meddai Philippa Charles, Cyfarwyddwr Sefydliad Garfield Weston a oedd yn gyfrifol am ddod a Dippy i Gaerdydd.
“Ry’n ni wrth ein bodd bod Dippy wedi cyflawni ei dasg mewn ffordd mor llwyddiannus yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ac ry’n ni’n gwybod ei fydd yr un mor boblogaidd yn ei gartref newydd yn Rochdale.”
Po mor boblogaidd oedd Dippy?
- 213,740 o ymwelwyr i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
- 12,441 o blant ysgol o 282 ysgol i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
- Dros 1.5 miliwn wedi ymweld â Dippy ar Daith mewn 6 lleoliad gwahanol.