Fe fydd Aberdâr yn cael mynediad at fand llydan cyflym iawn fel rhan o gynllun Openreach mewn mwy na 200 o drefi a phentrefi bach gwledydd Prydain.

Y gobaith yw sicrhau bod gan bedair miliwn o gartrefi a busnesau fynediad i dechnoleg ffibr llawn erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Bydd y gwaith yn dechrau o fewn 14 mis, gan adeiladu ar arbrawf a gafodd ei gynnal y llynedd, pan ddatblygodd peirianwyr ddulliau newydd o gyrraedd ardaloedd lle na fu’n bosib yn y gorffennol.

“Mae ein rhaglen adeiladu ffibr llawn yn mynd yn wych, wrth fynd y tu hwnt i fwy na dwy filiwn o fangreoedd eisoes ar y ffordd i’r nod o bedair miliwn erbyn mis Mawrth 2021,” meddai Clive Selley, prif weithredwr Openreach.

“Rydyn ni nawr yn adeiladu oddeutu 26,000 o fangreoedd bob wythnos mewn mwy na 100 o leoliadau, gan gynnwys cartref neu fusnes newydd bob 23 eiliad.

“Mae hynny i fyny o 13,000 o leoliadau yr wythnos yr adeg hon y llynedd.”