Mae Mark Drakeford yn galw ar y Cymry i ddathlu gwahaniaethau ar Ddiwrnod Holocost y Byd.
Mae’n 75 mlynedd union ers i wersyll y Natsïaid yn Auschwitz gau.
Fe fu prif weinidog Cymru’n bresennol mewn digwyddiad swyddogol yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd heddiw (dydd Llun, Ionawr 27) i goffáu’r Holocost.
Roedd Dr Martin Stern, goroeswr yr Holocost, a Huw Thomas, arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, yn y digwyddiad hefyd.
Mae hefyd yn 25 mlynedd ers cyflafan Srebrenica yn Bosnia.
Daw’r gwasanaeth wythnos ar ôl i’r Cenhedloedd Unedig weithredu i atal cyflafan yn erbyn Mwslimiaid Rohingya ym Myanmar.
‘Diwrnod poenus’
“Mae heddiw’n ddiwrnod poenus ac rwy’n diolch i Dr Stern am ddefnyddio’i stori deimladwy i’n hatgoffa ni i gyd am rym goddefgarwch,” meddai Mark Drakeford.
“Mae’r Holocost yn ddigwyddiad hanesyddol cywilyddus y mae’n rhaid i ni gofio amdano am byth.
“Fe ddigwyddodd, fel pob hil-laddiad cyn ac ar ôl hynny, oherwydd bod gwahaniaethau pobol wedi cael eu defnyddio i achosi drwgdybiaeth ac i hollti’r gymdeithas.
“Rhaid i ni sefyll gyda’n gilydd. Rhaid i ni ddathlu ein gwahaniaethau.
“A rhaid i ni gredu bod yna fwy sy’n ein huno ni nag sy’n ein gwahanu ni.
“Dyna’r unig ffordd o sicrhau bod y digwyddiadau truenus hyn yn aros yn union le maen nhw’n perthyn – yn y llyfrau hanes.”