Daeth cadarnhad erbyn hyn y bydd Siôn Jobbins yn parhau’n gadeirydd Yes Cymru ar ôl cael ei ail-ethol yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y mudiad ym Merthyr Tudful ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 25).
Cian Ciarán yw’r is-gadeirydd o hyd, a Hedd Gwynfor yn parhau’n ysgrifennydd a Gwyn Llywelyn yn drysorydd.
Hefyd wedi’u hethol i’r pwyllgor mae Adam Phillips, Carys Eleri, Dilys Davies, Iestyn Ap Rhobert, Llywelyn ap Gwilym, Mark Hooper, Shanne Brennan a Tori West.
Fel rhan o’r digwyddiad yng Nghanolfan Soar, cafodd cyfres o sgyrsiau am annibyniaeth, Sgwrs Annibyniaeth, eu cynnal.
Y siaradwyr oedd y dyn busnes David Buttress (sylfaenydd Just Eat), y ddarlledwraig Angharad Mair, Mark Hooper, y newyddiadurwraig Carolyn Hitt a Mark Evans, oedd wedi sefyll yn yr etholiad cyffredinol dros Blaid Cymru ym Merthyr a Rhymni.
Ymhlith y pynciau a gafodd eu trafod roedd yr economi, y cyfryngau, bancio, rygbi a phêl-droed.