Mae Almaenwr wedi bod yn sôn am sut wnaeth cerddoriaeth un o fandiau gorau Cymru ei ysbrydoli i ddysgu Cymraeg.
Clywodd Lars Kretschmer, sy’n wreiddiol o Großräschen yn yr Almaen, gerddoriaeth y Super Furry Animals am y tro cyntaf pan oedd yn ei arddegau.
Yna clywodd aelodau’r band poblogaidd yn siarad Cymraeg ar orsaf radio yn yr Almaen ym 1996, a phenderfynodd fynd ati i geisio dysgu’r iaith.
Erbyn hyn mae’r Almaenwr yn byw yn Saltney Ferry ger Caer, ac yn mynychu cwrs Cymraeg yn Wrecsam.
“Dw i wrth fy modd gyda cherddoriaeth o bob math,” meddai Lars Kretschmer.
“Ond pan wnes i glywed caneuon y Super Furries am y tro cyntaf, a chlywed aelodau’r band yn siarad iaith nad oeddwn i hyd yn oed yn gwybod oedd yn bodoli, ro’n i eisiau dysgu mwy amdanynt, am eu cerddoriaeth, ac am y Gymraeg.”
Aeth Lars Kretschmer ati i ddilyn cwrs dysgu Cymraeg yn yr Almaen, a mynychu dosbarthiadau nos wythnosol gyda thiwtor Cymraeg o’r Almaen.
A symudodd i Gymru i fyw yn 2010 er mwyn dilyn cwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth a mynd ymlaen i fod yn athro.
“Roedd cael treulio amser yn astudio ac yn byw yn nhref Aberystwyth yn brofiad da iawn, ac fe wnes i lawer o ffrindiau a oedd yn fodlon siarad Cymraeg â fi drwy’r amser.” meddai.