Mae pennaeth y BBC yng Nghymru yn cael ei feirniadu am awgrymu nad yw system darlledu Gwlad y Basg – lle mae’r llywodraeth ddatganoledig gyda pwerau dros y maes – gystal ag un Cymru, gerbron pwyllgor y Senedd yng Nghaerdydd heddiw (dydd Mercher, Ionawr 22).

Mae ei sylwadau wedi cythruddo ymgyrchwyr sydd wedi ei gyhuddo o “wawdio” y galwadau i drosglwyddo pwerau darlledu o Lundain i Gaerdydd.

“Rwyf wedi gweld digonedd o ddogfennaeth gan Gymdeithas yr Iaith, maen nhw’n cyfeirio’n rhamantaidd at Wlad y Basg fel enghraifft o aml-sianel, yn y Fasgeg, ar y teledu ac ar radio… ond mae’r ariannu yma yn sylweddol uwch. Dyma’r eliffant yn yr ystafell yn yr holl sgwrs hon…” meddai Rhodri Talfan Davies.

Ar y llaw arall, dywedodd Prif Weithredwr S4C, Owen Evans, ei fod yn gweld “manteision clir” trosglwyddo pwerau darlledu o San Steffan i Gymru.​ Yn ôl arolwg barn gan YouGov, mae 65% o bobl Cymru yn ffafrio datganoli darlledu i’r Senedd yng Nghymru.

Mewn ymateb, dywedodd Bethan Ruth Roberts, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Sut allai wawdio Gwlad y Basg? Ydyn nhw eisiau rhoi pwerau darlledu yn ôl i Fadrid? Wrth gwrs dydyn nhw ddim, mae gyda nhw system lawer iawn gwell na ni – gyda chwe sianel deledu a pum gorsaf radio o Wlad y Basg am Wlad y Basg, ac mae’r iaith Fasgeg yn ffynnu ar eu cyfryngau.”

Ymateb BBC Cymru

Mewn ymateb i’r stori, mae BBC Cymru yn aeyddus i bwysleusio:

  • Gwnaeth Rhodri Talfan hi’n glir yn y sesiwn (ynglyd â’r cynrychiolwyr eraill oedd yn rhoi tystiolaeth) eu bod yn niwtral ar ddatagoli darlledu, felly mae honiad pennawd yr erthygl ei fod wedi “’gwawdio’ datganoli darlledu” yn anghywir
  • Roedd sylwadau Rhodri Talfan yn ymwneud â ariannu darlledu yn unig, felly mae’n anghywir i ddweud ei fod wedi awgrymu nad yw’r system yng Ngwlad y Basg “gystal ag un Cymru”.