Mae ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo’r BBC o weithredu yn annemocrataidd heddiw, wrth i Awdurdod y gorfforaeth gyfarfod yn Llundain er mwyn trafod cyllideb S4C o 2015 i 2017.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn mynnu y dylai’r gorfforaeth fod yn aros nes bod San Steffan wedi pleidleisio ar y Mesur Cyrff Cyhoeddus yfory cyn trafod y mater – ac nad oes gan y BBC y “grym statudol” i wneud penderfyniad o’r fath ar hyn o bryd.

Fe fydd gweinidogion yn pleidleisio yfory ar fesur sy’n cynnig torri’r cyswllt rhwng cyllideb S4C a graddfa chwyddiant, ac yn cynnig newid cyfansoddiad S4C fel bod gan y BBC reolaeth dros gyllido’r sianel, a lle ar Awdurdod y sianel.

“Mae gan Cymdeithas yr Iaith gwestiynau mawr ynglŷn â phroses y BBC o drafod dyfodol S4C,” meddai llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith wrth Golwg 360.

“Mae’r BBC ac Adran Ddiwylliant San Steffan wedi mynd ati i gynnal trafodaethau tu ôl i ddrysau caeedig” meddai’r llefarydd.

Mae Llywodraeth San Steffan eisoes wedi dynodi cyllideb S4C hyd at 2015 – ond mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud fod y BBC wrthi’r funud hon yn trafod cyllideb y sianel o hynny hyd at 2017, er mwyn cyd-fynd â chyfnod setliad ffi’r drwydded rhwng y BBC a’r Llywodraeth.

“Maen nhw’n gwneud dêl heb ymgynghoriad,” meddai’r llefarydd “Dyna beth y’n ni’n gwrthwynebu.”

Llythyr at y BBC

Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Bethan Williams, wedi ysgrifennu llythyr agored at Ymddiriedolaeth y BBC yn beirniadu’r ffaith eu bod nhw ar fin penderfynu ar ddyfodol S4C.

Yn ei llythyr, dywed Bethan Williams ei bod yn bryderus fod y penderfyniad yn mynd i gael ei gymryd ar ddyfodol S4C “heb ymgynghori â phobl Cymru, a thra bod proses Seneddol yn mynd yn ei flaen.”

Yn ôl Bethan Williams, mae’r diffyg ymgynghoriad â “phobol Cymru a gwleidyddion Cymru yn y Cynulliad” yn golygu bod trafodaethau’r BBC heddiw yn “annilys ac yn annemocrataidd.”

Mae Cymdeithas yr Iaith, ynghyd â nifer o fudiadau eraill yng Nghymru dan faner Mudiadau Dathlu’r Gymraeg, yn dal i alw am adolygiad annibynnol llawn o S4C, cyn bod y Llywodraeth a’r BBC yn cymryd unrhyw benderfyniadau pellach ar ddyfodol y sianel.

Yn ôl Bethan Williams, dylid galw am “adolygiad llawn ac annibynnol o S4C, fel y mae nifer o fudiadau wedi galw amdano, ac aros hyd  nes bod penderfyniad teg yn cael ei wneud ar sail hynny.”

Dyw hi ddim yn glir eto pryd y bydd y BBC yn gwneud cyhoeddiad swyddogol ar gyllideb S4C o 2015 i 2017, ond mae’n ymddangos y bydd y penderfyniad ar y mater yn cael ei wneud yn ystod y trafodaethau heddiw.