Mae’r heddlu wedi lansio apêl am dystion wedi i ddyn fygwth merch 13 oed â chyllell, a cheisio dwyn ei harian a’i ffôn.
Roedd y ferch 13 oed yn cerdded ar hyd Stryd Caswell yn Llanelli pan geisiodd y dyn ddwyn oddi arni ddydd Sadwrn.
Mae’r heddlu’n credu bod y dyn wedi dilyn y ferch o’r orsaf drenau yng nghanol y dref ar hyd nifer o strydoedd, cyn ei bygwth ar Stryd Caswell, ychydig wedi 6pm.
Ond yn ôl Heddlu Dyfed Powys, fe wrthododd y ferch ysgol a rhoi ei harian na’i ffôn i’r dyn, er iddo ei bygwth.
Mae’r Ditectif Ringyll Ifan Charles wedi disgrifio’r digwyddiad fel un amhleserus iawn, ac wedi annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.
“Er na chafodd neb eu hanafu yn y digwyddiad, roedd hi’n amlwg yn brofiad amhleserus a gofidus i’r ferch,” meddai.
“Gadawodd y ferch y tren yng ngorsaf Llanelli, a cherdded ar ei phen ei hun i lawr stryd Caradog, Stryd Dilwyn, ac yna croesi’r ffordd at Stryd Caswell.
“Roedd y dyn wedi ei dilyn yr holl ffordd ar hyd ei llwybr, cyn mynd ati ar Stryd Caswell a mynnu ei harian a’i ffôn symudol tra’n ei bygwth â chyllell.
“Ond ni roddodd y ferch unrhyw beth i’r dyn.”
Yn ôl disgrifiad yr heddlu, mae’r dyn yn wyn, tua 5”4 o daldra, a thua 20 oed.
Dywedodd y Ditectif Ringyll: “Rydw i’n apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal adeg y digwyddiad i gysylltu â’r heddlu ar unwaith, gan ei bod hi’n bosib fod ganddyn nhw wybodaeth a fyddai’n gallu helpu’r ymchwiliad.”
Mae’r heddlu’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu sy’n nabod y disgrifiad o’r dyn i gysylltu â’r heddlu ar 01267 222020.