Mae rhaglen gwis ar y BBC wedi gwneud jôc am “lafariaid coll y Gymraeg” ar ddiwedd y bennod neithiwr (nos Lun, Ionawr 21).
Mae Victoria Coren Mitchell, cyflwynydd Only Connect, yn gwneud darn dychanol i’r camera ar ddiwedd pob pennod, ac roedd yr eitem neithiwr yn canolbwyntio ar rownd boblogaidd y llafariaid coll.
Darllenodd hi lythyr, gan ddweud mai Len Dodsbury o Winchester oedd yr awdur.
“Cyn i ni fynd, dw i wedi cael llythyr gan wyliwr,” meddai wrth gyflwyno’r eitem.
“Mae’n dweud Annwyl Victoria, caru’r sioe, dw i a fy ngwraig yn ei gwylio bob wythnos. Ond mae Eileen bob amser yn rhoi stwr i fi oherwydd, ar ddechrau rownd y llafariaid coll, dw i wastad yn jocian, ‘Onid jyst yr iaith Gymraeg yw hynny?”
Mae’r eitem yn gorffen wrth i Victoria Coren Mitchell ychwanegu, “Diolch am rannu hynny, Len. Yn anffodus, mae’n drosedd gasineb a dw i wedi rhoi eich llythyr i’r heddlu. Hwyl fawr.”
Cynhyrchiad Cymreig
Mae Only Connect yn cael ei chynhyrchu gan Presentable Productions, cwmni sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd.
Awdur y gyfres yw Adam Bostock-Smith.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y cwmni cynhyrchu a’r BBC.