Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, am sefydlu gweithgor er mwyn lleihau’r amser mae’n ei gymryd i drosglwyddo cleifion o ambiwlansys i unedau brys ysbytai.
Mae’n dweud y bydd y gweithgor yn cyflymu’r broses ac yn lleddfu’r “pwysau eithriadol” ar unedau brys dros y gaeaf hwn.
“Rwy’n gofidio am berfformiadau wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys yn gwaethygu dros y misoedd diwethaf,” meddai.
“Fel cam brys, rwy’ wedi gofyn i swyddogion ddatblygu cynigion ar gyfer system ysgogi er mwyn sicrhau’r gwelliannau sydd eu hangen.”
Mae’n dweud y bydd penderfyniad “dros yr wythnosau nesaf” ynghylch ffyrdd o sicrhau bod y drefn newydd yn ei lle er mwyn gwella perfformiadau’r gaeaf.
Croesawu’r cyhoeddiad
Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans yn croesawu’r cyhoeddiad, gan ddweud bod oedi’n arwain at amserau aros “annerbyniol” i gleifion.
15 munud yw’r amser priodol i ambiwlans aros y tu allan i ysbytai cyn i gleifion gael eu derbyn gan ysbytai.
Ond roedd oedi i 513 o gleifion fis Tachwedd y llynedd, y nifer fwyaf ers Mawrth 2016.
Yn ôl Vaughan Gething, fe fu’r gwasanaeth ambiwlans yn ymateb i 23% yn fwy o “alwadau coch”, y rhai mwyaf difrifol, y gaeaf diwethaf, ac 8.4% yn fwy o “alwadau oren”, oedd ychydig yn llai difrifol.
Roedd 8.4% yn fwy o gleifion dros 75 oed mewn unedau brys dros y flwyddyn ddiwethaf, 8.6% yn fwy na’r un cyfnod bum mlynedd yn ôl.