Mae Adam Price wedi cyhoeddi pwy fydd â pha rôl yng nghabinet cysgodol Plaid Cymru yn y Senedd yng Nghaerdydd a San Steffan.
Mae arweinydd y blaid yn dweud y bydd y timau newydd yn gweithio dros Gymru yn y cyfnod cyn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf.
Dyma’r tîm a fyddai’n “arwain y frwydr” yn ystod “y degawd hwn o newid”, meddai, gan flaenoriaethu amserau aros y Gwasanaeth Iechyd, gwella is-adeiledd, sicrhau swyddi ac ariannu teg i Gymru ar ôl Brexit.
Mae’n dweud bod angen newid ar Gymru ar ôl dau ddegawd o dan reolaeth Llywodraeth Lafur yn y Cynulliad.
Y tîm yn y Cynulliad a Grŵp San Steffan
Mae Rhun ap Iorwerth bellach yn gyfrifol am Iechyd a Chyllid, tra bod Helen Mary Jones yn gofalu am yr Economi a Thrafnidiaeth.
Dr Dai Lloyd fydd â phortffolio Cydberthynas Ryngwladol a Brexit, tra bydd Delyth Jewell yn gyfrifol am Drawsnewid Gwasanaethau Cyhoeddus.
Yn San Steffan, mae Liz Saville Roberts yn parhau’n arweinydd Grŵp Plaid Cymru, a bydd hi hefyd yn gyfrifol am Gyfiawnder, Materion Cartref, Merched a Chydraddoldeb, a Strategaeth Busnes, Ynni a Diwydiant.
Jonathan Edwards yw chwip y blaid, a bydd e hefyd yn gyfrifol am Faterion Tramor, Amddiffyn, Trafnidiaeth a Datblygu Rhyngwladol.
Cyfrifoldebau Ben Lake fydd y Trysorlys, yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Materion Cyfansoddiadol a Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Bydd Hywel Williams yn gyfrifol am Brexit, Masnach Ryngwladol, Gwaith a Phensiynau a’r Swyddfa Gabinet.
‘Arwain y frwydr’
“Gydag ychydig dros flwyddyn i fynd nes bod Cymru’n ethol llywodraeth newydd, rwy’n falch o gyflwyno tîm Plaid Cymru a fydd yn arwain y frwydr dros bobl Cymru yn y degawd newydd hwn o newid,” meddai Adam Price.
“Nid ydym am setlo am reoli problemau. Yn hytrach, byddwn yn cynnig ac yn darparu atebion go iawn a fydd yn sicrhau newid cadarnhaol ym mywydau pobol.
“Boed yn mynd i’r afael ag amseroedd aros y GIG a’r pwysau ar ofal cymdeithasol, cysylltu Cymru gyfan trwy adeiladu system drafnidiaeth werdd o’r gogledd i’r de, sicrhau swyddi â chyflog da i bawb, neu sicrhau cyllid teg i Gymru yn dilyn ein hymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd, bydd Plaid Cymru yn cyflawni dros bobol Cymru.
“Ar ôl ugain mlynedd o lywodraeth Lafur flinedig sydd wedi rhedeg ei chwrs, mae Cymru’n ysu am feddwl newydd a syniadau newydd.
“Bydd Plaid Cymru yn cynnig gobaith i’n gwlad a gyda lles pobol Cymru fel ein blaenoriaeth, rydym yn barod i arwain ymlaen at Gymru newydd. Mae’r daith honno’n cychwyn heddiw.”
‘Anrhydedd fawr’
“Mae’n anrhydedd fawr cael fy ail-ddewis i arwain grŵp seneddol Plaid Cymru yn San Steffan yn dilyn yr etholiad y mis diwethaf, lle gwnaethom gyfystyr â’n canlyniad gorau erioed o ran nifer yr Aelodau Seneddol, gyda’r pedwar wedi dychwelyd,” meddai Liz Saville Roberts.
“Wrth i Lywodraeth Prydain gychwyn ar y trafodaethau anoddaf ers cyn cof, bydd ein tîm cryf yn San Steffan yn sicrhau na fydd Boris Johnson yn gallu rhoi Cymru i un ochr bellach.
“Mae grŵp San Steffan yn llwyr gefnogol i’r Cabinet Cysgodol newydd rhagorol wrth inni agosáu at etholiad 2021.
“Mae angen llywodraeth newydd ar Gymru ac mae Plaid Cymru yn barod i fod y llywodraeth honno. ”