Mae canolfan ganser yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot wedi llwyddo i ostwng amserau aros o 92% yn ei blwyddyn gyntaf.

Mae ymchwil yn dangos fod cleifion a aeth at eu meddygon teulu â symtomau wedi cael eu hanfon i’r ganolfan er mwyn cael diagnosis mwy cyflym.

Mae’r ganolfan, sydd o dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, wedi llwyddo i dorri amserau aros i lai na chwe niwrnod i bobol sydd â symtomau canser, cyflwr arall neu sydd wedi cael profion gwaed nad ydyn nhw’n dangos symtomau i fod yn ofalus yn eu cylch.

Rhwng Mehefin 2017 a Mai 2018, cafodd 189 o gleifion eu hanfon i’r ysbyty gan feddyg teulu, sy’n cyfateb i 2.78 o gleifion bob hanner diwrnod yn y clinig a gafodd ei gynnal ddwywaith yr wythnos.

Cafodd 23 o gleifion oedd wedi’u hamau o fod â chanser, 30 â chyflwr arall a 68 heb fod unrhyw beth amlwg yn eu profion gwaed ddiagnosis o fewn 5.9 niwrnod ar gyfartaledd.

Cafodd y rhai y bu’n rhaid cynnal profion pellach ar eu cyfer ddiagnosis o fewn cyfartaledd o 40.8 diwrnod, yn hytrach na’r 84.2 diwrnod y tu allan i’r ganolfan.

Gall diagnosis hwyr arwain at fwy o bobol yn marw, mae triniaethau’n fwy costus erbyn hynny a gall effeithio ar ansawdd bywydau cleifion yn sylweddol.

Gall fod yn anodd dod o hyd i sawl math o ganser, gan fod symtomau’n debyg i gyflyrau eraill a dydyn nhw ddim o reidrwydd yn derbyn triniaeth frys.

Er nad oedd y ganolfan yn gost effeithiol yn ystod ei blwyddyn gyntaf, mae mwy o gleifion yn mynd iddi erbyn hyn ac mae’n dechrau dwyn ffrwyth i gleifion sy’n derbyn gofal mwy cyflym nag y bydden nhw mewn canolfannau eraill.

Er bod gan awduron yr ymchwil bryderon am gost ehangu’r ganolfan, maen nhw bellach yn dweud bod y canlyniadau’n arwydd y dylid cynnig mwy o wasanaethau yno ac y gallai ddisodli gwasanaethau canser eraill yn y pen draw.

Maen nhw’n dweud y byddai ehangu’r ganolfan o fudd i gleifion, meddygon teulu a’r Gwasanaeth Iechyd.