Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cynllun i godi pont newydd dros afon Dyfi ger Machynlleth.
Yn ôl y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates, bydd y cynllun £46m yn gwella diogelwch ar y lôn, yn cryfhau cysylltiadau rhwng cymunedau, yn sicrhau mwy o amddiffynfeydd rhag llifogydd, yn ogystal â datblygu’r economi yno.
Cafodd y bont bresennol dros afon Dyfi ei hadeiladu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dyw hi ddim yn cynnwys llwybrau cerdded.
Bydd symud y traffig mwyaf o’r bont a darparu llwybr cerdded a beicio yn gwella cyfleoedd teithio, ac yn gwneud tref Machynlleth a’r ardal o’i hamgylch yn fwy deniadol i dwristiaid, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae’n bosib y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn ystod haf 2020 gyda’r gobaith o gwblhau’r gwaith erbyn haf 2022.
Croesawu’r cyhoeddiad
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd pont newydd yn cael ei hadeiladu dros afon Dyfi.
Roedd y bont yn rhan o gytundeb cyllid 2014 rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig a Llywodraeth Cymru.