Mae Clwb Pêl-droed Abertawe’n dweud bod cyfrif Instagram yr ymosodwr Andre Ayew wedi cael ei hacio.

Fe ddaw ar ôl i fathodyn Clwb Pêl-droed Fenerbahce ymddangos ar ei dudalen, ac yntau wedi treulio’r tymor diwethaf ar fenthyg gydag un o brif glybiau Twrci.

Mae neges islaw’r llun yn dweud ei fod e “wedi diflasu mewn cyfarfod” yn Fenerbahce.

Daw’r neges ddyddiau’n unig ar ôl i’r ffenest drosglwyddo agor eto, ac mae cryn ddyfalu a thrafod am ddyfodol yr ymosodwr, wrth i’r Elyrch geisio cydbwyso’r cyfrifon yn sgil gostwng o’r Uwch Gynghrair.

“Yn anffodus, mae cyfrif Instagram Andre Ayew wedi cael ei hacio,” meddai Clwb Pêl-droed Abertawe mewn datganiad.

“Rydym yn ceisio datrys y mater hwn ag Instagram cyn gynted â phosib.”