Mae Nathan Dyer, capten tîm Abertawe ar gyfer y gêm gwpan yn erbyn QPR dros y penwythnos, wedi ymddiheuro am y perfformiad “annerbyniol”.
Cafodd yr Elyrch grasfa o 5-1 – eu colled waethaf ers iddyn nhw golli o 7-0 yn erbyn Fulham yn 1995.
Fe wnaeth y rheolwr Steve Cooper ddeg newid i’r tîm ar gyfer y gêm yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr, er mwyn rhoi blaenoriaeth i’r gemau yn y gynghrair ac fe ddywedodd ei fod e’n siomedig gydag agwedd a diffyg ymroddiad ei dîm.
Ond dydy hynny ddim yn esgusodi’r perfformiad na’r canlyniad, yn ôl yr asgellwr oedd yn arwain y tîm am y tro cyntaf mewn gêm gystadleuol.
‘Rhaid codi safonau’
“Dw i ddim yn meddwl y gallwch chi ddefnyddio’r ffaith fod y tîm yn cael ei gylchdroi fel esgus,” meddai.
“Os ydych chi’n cael eich rhoi yn y tîm, rhaid i chi roi 110% a thaflu eich corff i mewn iddi.
“Yn anffodus, wnaeth hynny ddim digwydd.
“Fe enillon nhw eu brwydrau, wnaethon ni ddim ennill ein rhai ni ac fe gawson ni ein cosbi am hynny.
“Roedden nhw’n gryf yn amddiffyn hefyd a wnaethon nhw ddim rhoi eiliad o lonydd i ni.
“Mae’n destun siom i ni fynd allan, ac mae hefyd yn siomedig i’r chwaraewyr sydd ddim yn cael llawer o funudau i fethu ag aros yn y gystadleuaeth.
“Fel clwb, rydyn ni’n gwybod fod ein hansawdd ni dipyn uwch nag y gwnaethon ni ddangos.
“Roedd hynny’n annerbyniol, a dw i’n ymddiheuro wrth y cefnogwyr a ddaeth i wylio – dw i’n cymryd cyfrifoldeb llawn, fel y mae’r chwaraewyr eraill, dw i’n siŵr.
“Doedd hynny ddim yn ddigon da, ac mae’n bwysig iawn ein bod ni’n ymateb. Rhaid i ni godi ein safonau, yn syml iawn.”