Mae’r gwasanaeth tân yn rhybuddio pobol i fod yn ofalus wrth ddefnyddio cyfarpar trydan yn y gegin ar ôl ymateb i ddau ddigwyddiad yn Abertawe o fewn 24 awr.

Cawson nhw eu galw am 5.51yp ddoe (nos Lun, Ionawr 6) yn dilyn tân yn ardal Treforys oedd wedi cael ei achosi gan beiriant ffrïo sglodion.

Ond fe gafodd ei ddiffodd cyn iddyn nhw gyrraedd yr eiddo, a chafodd dynes oedrannus ei chludo i’r ysbyty.

Am 1.45yb heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 7), cawson nhw eu galw i ardal Port Tennant ar ôl i dostiwr fynd ar dân ar lawr gwaelod fflat, ac fe wnaeth mwg ledu drwy’r eiddo.

Cafodd dyn driniaeth yn y fan a’r lle am effeithiau mwg, a chafodd y tân ei ddiffodd.

Mae’r gwasanaeth tân yn dweud mai diogelwch yw’r flaenoriaeth i unrhyw un yn y gegin, waeth bynnag am eu gallu i goginio.

Cyngor

Dywed y gwasanaeth tân na ddylid gadael plant ar eu pen eu hunain, ac y dylid cadw matsys a dolenni sosbenni o’r ffordd.

Maen nhw hefyd yn rhybuddio y gall dillad fynd ar dân wrth goginio, ac y dylid cadw tywelion i ffwrdd o gyfarpar coginio.

Dylid diffodd y ffwrn ar ôl gorffen, a dylid lleihau gwres os oes angen cerdded i ffwrdd am ychydig.

Dylid cadw cyfarpar trydan i ffwrdd o ddŵr, a gwirio bod cyfarpar trydannol i ffwrdd o’r llenni a phapur cegin, a gall saim achosi tân.

Maen nhw hefyd yn rhybuddio na ddylid taflu dŵr ar ben cyfarpar ffrïo, ac y dylid ffonio 999 mewn argyfwng yn hytrach na cheisio diffodd fflamau.