Mae Jess Phillips, un o’r enwau yn y ras i arwain y Blaid Lafur, yn dweud na all hi “weld amgylchiadau” lle byddai hi’n cefnogi cynnal ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban.

Dywed yr aelod seneddol, sy’n awyddus i olynu Jeremy Corbyn, mai diffyg eglurder ar annibyniaeth i’r Alban a Brexit yw’r rheswm pam fod y blaid wedi colli etholiadau pwysig.

“Dw i’n meddwl mai un o’r rhesymau y gwnaethon ni golli yn yr Alban a pham ein bod ni wedi bod yn colli yn yr Alban ers tro – ac nid dim ond yn yr etholiad cyffredinol – yw nad ydyn ni, ers y refferendwm yno, wedi bod â safbwynt clir ar ddau gwestiwn cyfansoddiadol mawr y dydd,” meddai wrth raglen Good Morning Scotland y BBC.

“Dw i’n credu bod pobol, wrth edrych ar blaid wleidyddol, os nad ydyn nhw’n sicr beth maen nhw’n ei ddweud am un peth, yn colli ymddiriedaeth y cyhoedd.

“Dw i ddim yn meddwl y dylen ni gael refferendwm arall ar annibyniaeth i’r Alban – wnaeth 53% o’r cyhoedd Albanaidd yn yr etholiad cyffredinol ddim pleidleisio dros blaid oedd yn hyrwyddo annibyniaeth.

“Dw i’n meddwl y dylen ni fod yn trafod pethau sy’n berthnasol i fywydau pobol yn yr Alban.

“Alla i ddim gweld amgylchiadau lle byddwn i’n meddwl y byddai’n well i’r Alban adael y Deyrnas Unedig.”

Ymateb yr SNP

Ond yn ôl Tommy Sheppard, aelod seneddol yr SNP, bydd Llafur yn parhau i fynd yn fwy “amherthnasol” os ydyn nhw’n amharchu hawl yr Alban i benderfynu drosti ei hun.

“Mae’r sylwadau hyn yn hy’ a dyma’r un agwedd ddirmygus sydd wedi achos i gefnogaeth i Lafur yn yr Alban chwalu.

“Mae’n amlwg nad yw Llafur wedi dysgu unrhyw beth ac maen nhw’n anwybodus os ydyn nhw’n credu y gallan nhw anwybyddu democratiaeth ac amddifadu pobol yr Alban o ddewis ynghylch ein dyfodol.

“Cyhyd â bod gwleidyddion Llafur yn meddwl y gallan nhw bregethu o San Steffan a gwrthod parchu hawl yr Alban i benderfynu drosti ei hun, byddan nhw’n parhau i fynd yn wleidyddol amherthnasol.”