Mae Heddlu Gwent wedi rhyddhau Nick Ramsay, yr Aelod Cynulliad 44 oed, ac wedi cadarnhau na fydd yn wynebu unrhyw gyhuddiadau.

Cafodd y gwleidydd o ardal Rhaglan, Sir Fynwy,  ei arestio yn sgil “digwyddiad” yn ei gartref nos Fercher.

Fe gafodd Nick Ramsay ei arestio wedi i’r heddlu dderbyn adroddiad am “aflonyddwch” mewn cyfeiriad ar Chepstow Road, Rhaglan ar ddydd Mercher (Ionawr 1) am 8.05 y nos.

Cyhoeddodd y Ceidwadwyr Cymreig ar ddydd Iau (Ionawr 2) ei fod wedi ei wahardd o grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad yn sgil digwyddiad ar Ionawr 1.