Mae’n debyg bod Jess Phillips, yr Aelod Seneddol dros Birmingham Yardley, yn bwriadu ceisio olynu Jeremy Corbyn yn arweinydd y Blaid Lafur.

Bydd hi’n ymuno â ras sydd eisoes yn cynnwys yr Ysgrifennydd Tramor cysgodol Emily Thornberry a’r Gweinidog Trafnidiaeth cysgodol Clive Lewis, sydd eisoes wedi cyhoeddi eu bod yn sefyll.

Bydd tasg enfawr yn wynebu pwy bynnag fydd yn olynu Jeremy Corbyn yn dilyn canlyniad gwaethaf y Blaid Lafur ers 1935 yn yr etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12 y llynedd.

Ymysg yr Aelodau Seneddol eraill allai sefyll am yr arweinyddiaeth mae’r Gweinidog Brexit cysgodol Syr Keir Starmer, y Gweinidog Busnes cysgodol Rebecca Long-Bailey a Lisa Nandy.