Mae dyn 33 oed wedi’i ryddhau dan ymchwiliad yn dilyn achos o drywanu yn nhref Caernarfon, ond mae’r heddlu’n awyddus i siarad â dau ddyn arall.

Cafodd y dyn ei arestio yn dilyn y digwyddiad yn Llys Buddug, Pendalar nos Sul (Rhagfyr 29).

Ond mae’r heddlu’n awyddus i siarad â Mark Griffiths, dyn 24 oed sydd hefyd yn cael ei adnabod wrth yr enw Mark Fango, yn ogystal â Craig Oulton, dyn 34 oed sydd hefyd yn cael ei adnabod wrth yr enw Craig Batman.

Mae’r heddlu’n credu fod ganddyn nhw wybodaeth allweddol am yr ymosodiad, ac maen nhw’n cael eu hystyried yn dystion.

Dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall ar hyn o bryd, wrth iddyn nhw drin yr achos fel un o geisio llofruddio.