Gwneud ffrindiau newydd fydd prif flaenoriaeth y Cymry yn ystod 2020, yn ôl ymchwil newydd gan Relate Cymru.

Nododd traean (33%) o’r rhai wnaeth ateb mai gwneud ffrindiau sydd bwysicaf iddyn nhw wrth edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod.

Dywedodd 29% eu bod nhw eisiau bod yn well wrth gadw cysylltiad gyda phobol, sef prif flaenoriaeth pobol yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ac mae 29% yn dweud eu bod nhw’n awyddus i wella’r berthynas rhyngddyn nhw a’u teuluoedd.

Dywed 25% bod gwella’u bywyd rhywiol yn flaenoriaeth iddyn nhw, tra bod 23% yn rhoi’r pwys mwyaf ar dreulio mwy o amser gyda’u plant.

Dywed 22% y byddan nhw’n chwilio am gariad yn y flwyddyn newydd.

Yr atebion eraill a gafwyd oedd dadlau llai â chymar (16%), ac ymrwymo i gymar drwy fyw gyda’i gilydd neu briodi (8%).

‘Amser da i feddwl’

“Mae’r Flwyddyn Newydd yn amser da i feddwl a gall gwneud addunedau helpu i ganolbwyntio ein meddyliau ar amcanion perthynas ar gyfer y flwyddyn i ddod,” meddai Val Tinkler, Rheolwr Cenedlaethol Relate Cymru.

“Mae angen gweithio ar unrhyw berthynas, ond y newyddion da yw fod modd eu gwella bron bob tro a gall rhai newydd ddatblygu yn y llefydd mwyaf annisgwyl.”

Ond mae gan yr elusen rybudd i barau priod ar drothwy ‘Diwrnod Ysgaru’ ar Ionawr, y diwrnod pan fo cyfreithwyr yn derbyn y nifer fwyaf o alwadau yn gofyn am gael dechrau trafod ysgariad.

Ar y diwrnod hwn y mae Relate hefyd yn derbyn y nifer fwyaf o alwadau gan un hanner o gwpwl anhapus yn dilyn cyfnod y Nadolig.

Roedd cynnydd o 12% yn nifer y galwadau dderbyniodd yr elusen fis Ionawr eleni, ac roedd cynnydd o 53% yn nifer yr ymweliadau â’u gwefan yn yr un cyfnod.

‘Does dim angen i chi ddioddef yn dawel’

“Os ydych chi’n cael trafferthion yn eich perthynas fis Ionawr neu unrhyw adeg o’r flwyddyn, does dim angen i chi ddioddef yn dawel,” meddai Val Tinkler wedyn.

“Gall trafod â chwnselydd sy’n gwbl oddrychol eich helpu chi a’ch cymar i ddod o hyd i’r ffordd orau i symud ymlaen.

“Gallai hynny olygu aros gyda’ch gilydd a gweithio ar y berthynas neu fe allai olygu gwahanu.

“Yn y naill achos a’r llall, mae bod â’r gefnogaeth briodol yn bwysig pan fo’n amser anodd.”

Cyngor

Mae’r elusen wedi cyhoeddi rhestr o ganllawiau i helpu i wella perthnasau:

  1. Cadwch mewn cysylltiad – anfonwch neges ar y cyfryngau cymdeithasol a threfnwch gyfarfod neu sgwrs, ond byddwch yn realistig ynghylch faint o bobol y bydd modd eu gweld yn rheolaidd.
  2. Dechreuwch bob perthynas ar eich pen eich hun drwy godi eich hunanhyder, e.e. drwy ymwneud â diddordebau, ymarfer corff a gwirfoddoli.
  3. Rhowch sylw i’ch bywyd rhywiol a’ch cymar – a gall ymarfer corff helpu’r awyrgylch!
  4. Sicrhewch eich bod chi’n ffraeo’n llai aml ac yn osgoi rhegi o flaen pobol eraill – a defnyddiwch ieithwedd llai ymosodol.