Mae’r heddlu wedi cael rhagor o amser i holi dyn 75 oed ar amheuaeth o lofurddio dynes 74 oed yn y Friog ger y Bermo.

Mae’r dyn yn cael ei holi yn y ddalfa am y digwyddiad yn Francis Avenue yn y pentre’ glan môr.

Yn ôl yr heddlu, roedden nhw wedi cael eu galw i’r tŷ am wyth o’r gloch nos Nadolig ar ôl adroddiadau bod gwraig wedi cael anafiadau difrifol.

Fe fethodd aelodau o’i theulu, yr heddlu a pharafeddygon ag achub y wraig – yn ôl y Ditectif Uwch Arolygydd Brian Kearney roedd hwn yn ddigwyddiad “arbennig o drasig ac yn anfarferol iawn yn yr ardal”.

Dyw enw’r wraig ddim wedi ei gyhoeddi hyd yma.