Mae’r heddlu’n apelio ar ôl i redwr 51 oed gael ei daro gan gar yn ardal Penfro ar Ddydd Nadolig.
Fe ddigwyddodd yn ardal Millpond Bridge am ganol dydd.
Mae lle i gredu bod y rhedwr wedi cael ei daro gan Skoda Fabia lliw golau wrth groesi’r bont i gyfeiriad Penfro.
Cafodd ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau difrifol i’w ben, ac mae e mewn cyflwr difrifol o hyd.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.