Mae Heddlu Gogledd Cymru’n parhau i ymchwilio ar ôl i wraig 74 oed gael ei llofruddio yn y Friog ger Y Bermo.
Mae dyn 75 oed yn y ddalfa ac yn cael ei holi am y digwyddiad yn Francis Avenue yn y pentre’ glan môr.
Yn ôl yr heddlu, roedden nhw wedi cael eu galw i’r tŷ am wyth o’r gloch nos Nadolig ar ôl adroddiadau bod gwraig wedi cael anafiadau difrifol.
Fe fethodd aelodau o’i theulu, yr heddlu a pharafeddygon ag achub y wraig – yn ôl y Ditectif Uwch Arolygydd Brian Kearney roedd hwn yn ddigwyddiad “arbennig o drasig ac yn anfarferol iawn yn yr ardal”.
Dyw enw’r wraig ddim wedi ei gyhoeddi hyd yma.