Fe gafodd plisman o Fangor sylw ar draws gwledydd Prydain ar ôl cynnig priodi ei bartner ben bore Nadolig.
Roedd Heddlu Gogledd Cymru ymhlith y rhai a anfonodd gyfarchion at y Cwnstabl Jamie Aston ar ôl i’w bartner, Ffion, gytuno i’w briodi.
Fe gafodd hi ei deffro’n gynnar cyn i PC Aston fynd ar ei shifft, a chodi i weld eu mab 6 mis oed Gruff yn gwisgo crys-T gyda neges gan ei dad yn cynnig ei phriodi – a phetalau rhosod o’i gwmpas.
Fe bostiodd yr Heddlu neges yn ei longyfarch ac yn tynnu sylw at y ffaith ei fod yn gweithio trwy’r dydd heddiw.
Fe gafodd y plismon 28 oed ei holi’n fyw ar raglen frecwast y BBC.