Mae’r heddlu’n apelio am dystion i’r ddamwain lle cafodd dynes 57 oed ei lladd ddoe.
Roedd ei char Seat wedi bwrw i mewn i set o oleuadau traffig ar yr A468 yn Nantgarw ger Caerffili.
Roedd hynny ganol y bore ac fe achosodd y digwyddiad gryn dipyn o anhrefn i draffig yn y cyffiniau.
Dim ond un car oedd yn y ddamwain ond mae Heddlu De Cymru’n apelio rhag ofn fod gan yrwyr eraill luniau camera-dashfwrdd o’r hyn ddigwyddodd.
Fe gafodd y wraig ei chludo i Ysbyty’r Brifysgol yng Nghaerdydd ond bu farw’n ddiweddarach.