Mae RSPCA Cymru yn cynnal ymgyrch i dynnu sylw at broblem sy’n cynyddu yn arw tros gyfnod y Nadolig, sef perchnogion yn cael gwared ar anifeiliaid anwes.
Er mwyn amlygu’r difaterwch dybryd at anifeiliaid, maen nhw wedi adrodd hanes un bochdew fu’n lwcus.
Fe gafodd Eggnog y bochdew bychan Rwsiaidd ei ddarganfod ar bafin yn ardal Penllergaer o ddinas Abertawe.
Cafodd ei ddarganfod yn crynu yn yr oerfel ger twmpath o lwch lli, a’i roi yng ngofal yr RSPCA.
“Drwy ryfedd wyrth y Dolig hwn, mi ddaeth teulu o hyd i’r bochdew a’i achub,” meddai Nicole Wallace, un o swyddogion lles anifeiliaid yr RSPCA.
“Mae ein canolfannau anifeiliaid yn tu hwnt o brysur yr adeg yma o’r flwyddyn. Ond doedd dim peryg y byddai’r ‘llety yn llawn’ o ran Eggnog bach – sydd bellach wedi cael cartref newydd ac yn barod am Ddolig arobryn.”
Mae’r elusen anifeiliaid yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y modd y cafodd Eggnog ei adael ar y pafin, i ffonio 0300 123 8018.
Bu RSPCA Cymru yn helpu 325 o anifeiliaid amddifad ym mis Rhagfyr y llynedd.