Mae Llywodraeth Cymru eisiau cael gwared â phlastig un defnydd erbyn 2050.
Ar hyn o bryd mae Cymru’n arwain y ffordd ym Mhrydain o ran ailgylchu ac yn wir, ein gwlad yw’r bedwerydd orau yn y Byd am ailgylchu.
Heddiw mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi ei strategaeth Tu Hwnt i Ailgylchu, sy’n bwriadu gwahardd gyrru gwastraff i safleoedd tirlenwi, yn ogystal â phlastig un defnydd.
Bydd £6.5 miliwn ychwanegol yn cael ei roi i gynghorau sir a chyrff cyhoeddus eraill i hybu’r broses yn ôl Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol.
“Mae Cymru eisoes yn arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig ym maes ailgylchu, ond dw i am inni fynd ymhellach a chymryd y cam nesaf,” meddai Hannah Blythyn.
“Rydym ni ar siwrnai tuag at ddod yn economi gylchol lle rydyn ni’n osgoi gwastraff ac yn ailddefnyddio adnoddau cynifer o weithiau ag y bo modd.”