Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu’n hallt wedi i ffigurau newydd ddangos eu bod yn parhau i fethu targedau unedau brys.

Mi wnaeth 86,000 claf ddefnyddio unedau brys Cymru ym mis Tachwedd, a dim ond 74.4% cafodd eu gweld o fewn pedair awr, sef y targed.

O ran ambiwlansys, cafodd 61.4% o alwadau brys eu hateb o fewn wyth munud. Targed y Llywodraeth yw 65%. 

Yn ôl Helen Mary Jones, llefarydd Plaid Cymru ar faterion iechyd, mae’r ffigurau yn “sgandal”.

“Mae’r GIG Cymreig yn cael trafferth ymdopi. Mae ein staff GIG ar y rheng flaen yn gwneud popeth y medran nhw dan amodau cynyddol heriol, a chamreoli brawychus gan Lafur.

“Pryd fydd y gweinidog yn derbyn ein bod yn wynebu argyfwng, ac yn gweithredu ar frys i gefnogi staff rheng flaen?”

Dim esgusodion

“Ges i fy nychryn gan ffigurau mis diwethaf, ond mae’r ffigurau yma’n gwneud i mi deimlon hollol anniddig,” meddai Angela Burns, llefarydd y Ceidwadwyr ar faterion iechyd.

“Mi gwympodd nifer y cleifion o 90,891 yn yr Hydref, i 85,910 ym mis Tachwedd, felly dyw Llywodraeth Cymru ddim yn medru dadlau mai pwysau cynyddol sydd ar fai.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Y mis diwethaf oedd y Tachwedd prysuraf erioed yn ein hadrannau achosion brys,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Hwn hefyd oedd y mis prysuraf ar gyfer y galwadau ‘coch’ mwyaf difrifol i’r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru…

“Mae’n amlwg bod pwysau ar draws y system, gan gynnwys cynnydd mewn achosion o ffliw a norofeirws mewn ysbytai, wedi effeithio ar berfformiad gofal brys y mis hwn ac mae’n siomedig gweld y targed ar gyfer galwadau ambiwlansys coch yn cael ei golli am y tro cyntaf…”