Mae Ysgrifennydd Tramor yr wrthblaid, Emily Thornberry, wedi dweud fod Jeremy Corbyn wedi ei “gynghori yn wael” a’i “danseilio” yn ystod yr ymgyrch etholiadol.
Dywed fod Jeremy Corbyn wedi cael ei “adael i lawr” ac, er ei bod hi’n gwrthod enwi neb, dywed fod “pobl yn gwybod am bwy dwi’n siarad”.
Mae Emily Thornberry wedi cyhoeddi ei bod hi’n rhedeg yn y ras i olynu Jeremy Corbyn fel arweinydd y Blaid Lafur.
“Dwi’n meddwl fod Jeremy wedi cael ei adael i lawr. A dwi’n meddwl fod Jeremy wedi ei gynghori yn wael,” meddai Emily Thornberry.
“Mae yn nifer o gamgymeriadau wedi cael eu gwneud rhwng 2017 a 2019 sydd wedi ei danseilio mewn ffordd sylfaenol”.
Dywed llefarydd ar ran y blaid: “Tyda ni ddim yn gwneud sylwadau ar faterion staffio”.