Mae Araith y Frenhines yn dangos bod gan San Steffan “apathi llwyr” tuag at Gymru, yn ôl arweinydd Plaid Cymru yn Llundain.

Traddododd y frenhines ei haraith brynhawn heddiw, gan amlinellu amcanion y Llywodraeth Geidwadol yn sgil yr etholiad cyffredinol. 

Roedd Brexit, y Gwasanaeth Iechyd, a charcharu ymhlith y materion a gafodd eu trafod, ond doedd dim sôn am Gymru yn ôl Liz Saville Roberts. 

“Os anwybyddwch y pomp a’r pasiantri, welwch chi bod San Steffan unwaith eto wedi dangos ei hapathi llwyr at Gymru,” meddai. 

“Mewn Araith i’r Frenhines a gafodd ei hailgylchu, doedd Cymru ddim wedi cael ei chrybwyll o gwbl. 

“Fel sy’n arferol â phleidiau San Steffan, mae heriau Cymru’n cael eu hanghofio unwaith mae’r camerâu a’r teithiau etholiad wedi dod i ben.”

Cynnwys yr araith

Mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno Biliau a fydd yn sicrhau bod troseddwyr treisgar – gan gynnwys brawychwyr – yn treulio cyfnodau hirach dan glo.

Mae disgwyl i Gomisiwn Brenhinol  gael ei sefydlu er mwyn sicrhau bod y broses cyfiawnder troseddol yn fwy effeithlon.

Bydd y Llywodraeth yn nodi mewn cyfraith eu hymrwymiad i fuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd – bydd £33.9bn yn cael ei darparu pob blwyddyn erbyn 2023/24. 

O ran Brexit, bydd y Bil Cytundeb Ymadael – sydd yn rhoi’r ddêl Brexit ar waith – yn galluogi’r Deyrnas Unedig i adael ar Ionawr 31, gyda chyfnod trosglwyddo yn para hyd at Ragfyr 31 2020.