Mae heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth wedi i warchodfa natur gael ei fandaleiddio yn Ynys Môn.
Mae Gwarchodfa Natur Leol Nant y Pandy, Llangefni, yn gartref i adar, pryfed, pysgod a llyffantod; ac ar nos Lun cafodd tua 50 llath o ffens bren ei falu a’i dalu i’r afon.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi galw’r weithred yn “siomedig” a “thrist”, ac mae eu Tîm Cefn Gwlad wedi treulio deuddydd yn gosod rhwydau dros y difrod.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol mae Heddlu’r Gogledd wedi ceryddu’r “ymddygiad gwarthus” ac wedi galw ar unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu “yn gynted ag sy’n bosib”.
Dyffryn coediog 10 hectar yw’r warchodfa natur, ac mae yna dair pont bren a cherfluniau ar hyd ei llwybrau.