“Does dim modd gwadu” bod gan yr Alban fandad i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth, yn ôl Prif Weinidog y wlad.

Daw sylwadau Nicola Sturgeon wrth iddi alw ar Lywodraeth San Steffan i drosglwyddo pwerau i Holyrood fel bod modd iddyn nhw gynnal ail bleidlais. 

Enillodd yr SNP 47 o’r 59 sedd Albanaidd yn yr etholiad cyffredinol, ac yn refferendwm Brexit 2016 wnaeth y genedl bleidleisio yn erbyn gadael yr Undeb Ewropeaidd. 

Ond mi bleidleisiodd 55% o bobol yn erbyn annibyniaeth yn 2014, ac mae Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn credu y dylai’r canlyniad gael ei barchu.

“Gorfodi” Brexit

“[Os na gawn annibyniaeth] bydd dyfodol – sydd eisoes wedi cael ei wrthod gennym ni – yn cael ei orfodi arnom,” meddai Nicola Sturgeon wrth siarad yn Bute House, ei chartref swyddogol.  

“Dyw’r Alban ddim eisiau Llywodraeth Dorïaidd, gyda Boris Johnson wrth y llyw, yn ein tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd. Mi wnaeth yr Alban wneud hynny’n glir yr wythnos diwethaf.

“Dyna yw’r dyfodol rydym yn ei wynebu os nad ydym yn cael y cyfle i ystyried yr opsiwn arall – annibyniaeth.”