Shaun gyda Warren Gatland
Mae hyfforddwr amddiffyn tîm rygbi Cymru, Shaun Edwards, wedi dweud nad yw’n siŵr efo pwy y bydd o’n gweithio yn y dyfodol.

Mewn cyfweliad gyda gohebydd rygbi’r gwasanaeth newyddion PA, dywedodd ei bod hi’n edrych ar hyn o bryd na fyddai ganddo gyswllt â chlwb, na thîm rhyngwladol ychwaith, ar ôl iddo ddychwelyd o Bencampwriaeth Rygbi’r Byd.

Dywedodd Shaun Edwards efallai y bydd yn gadael Wasps, y tîm o Lundain sy’n rhan o gynghrair Aviva, yn y dyfodol. Nhw ydi ei brif gyflogwr. “Efallai ei bod hi’n amser i mi symud ymlaen i wynebu sialensiau newydd,” meddai.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis, y byddai’n rhaid i unrhyw drafodaeth ynglŷn â chytundeb newydd posib iddo gyda Chymru fynd trwy glwb Wasps.

Mae si wedi bod fod gan dîm rygbi Lloegr ddiddordeb ynddo.

“Dwi’n mwynhau hyfforddi timau rygbi, does dim amheuaeth o hynny, ac mae wedi bod yn bleser hyfforddi Cymru,” meddai.

“Mi faswn i’n hoffi meddwl fod y gorau i ddod o ran y tîm yma,” ychwanegodd.

“Ond ni allwn orffwys ar ein bri. Rydym wedi derbyn llawer o ganmoliaeth yn ystod ein hymgyrch (ym Mhencampwriaeth Rygbi’r Byd), y ffordd yr ydym wedi chwarae ac wedi perfformio.

“Ond unwaith rydym gartre, mae’n rhaid i ni anghofio am hynny a symud ymlaen i’r sialens nesaf, sef Awstralia yn gyntaf (ar Ragfyr 3), ac yna’r Chwe Gwlad.

“Mi fysai’n dda cael dial ar Awstralia, yn enwedig gan mai hwn (mae’n  debyg) fydd gêm olaf pobl fel Shane Williams.”