Hallam Amos
Y Dreigiau’n Curo Gyda’r Gic Olaf

Wasps 29-30 Dreigiau

Y maswr ifanc, Steffan Jones gipiodd y fuddugoliaeth hon i’r Dreigiau ym Mharc Adams gyda chic olaf y gêm. Sgoriodd Jones 20 pwynt i’r rhanbarth o Gymru wrth iddynt drechu’r cewri o Lundain o 30-29.

Cais Cynnar i’r Dreigiau

Y Dreigiau sgoriodd gais cyntaf y gêm a thipyn o gais ydoedd hefyd. Yr ymwelwyr yn ennill y meddiant o’r lein a’r prop, Phil Price yn torri’n rhydd ac yn rhedeg o 20 llath gan ochr gamu amddiffynnwyr Wasps ar gyfer cais gwych wedi dim ond 4 munud o chwarae.

5-3 oedd hi dri munud yn ddiweddarach wedi i Ryan Davies gicio cic gosb i’r Wasps. Ond adferodd Steffan Jones y fantais bum pwynt i’r Dreigiau gyda mynydd o gôl adlam wedi 13 munud. Yna, ymestynnodd y fantais honno gyda chic gosb bedwar munud yn ddiweddarach, 11-3 i’r ymwelwyr.

Ond yna tarodd y tîm cartref yn ôl gyda chais da wedi 20 munud, y Wasps yn lledu’r bêl tua’r asgell dde ble’r oedd yr wythwr, John Hart yn aros i sgorio’n hawdd. Ychwanegodd Davies y trosiad a dim ond pwynt oedd ynddi, 11-10.

Yna, llwyddodd Steffan Jones gyda chic arall i’r Dreigiau cyn i’r Wasps fynd ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm gyda chais i Tom Varndell. Roedd hwn yn symudiad arbennig gan y Wasps, pêl gyflym a chymal ar ôl cymal wrth i’r tîm cartref symud i fyny’r cae, a’r bêl yn cyrraedd Varndell ar yr asgell chwith yn y diwedd ac yntau’n tirio. Yna, Davies â chic wych arall yn ychwanegu dau bwynt arall. 17-14 i’r tîm o Lundain.

Ond y Dreigiau gafodd air olaf yr hanner cyntaf gyda chais i Hallam Amos wedi hanner awr, y cefnwr 17 oed yn sgorio yn ei gêm gyntaf i’r rhanbarth. Yn wir dyma’r chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae i unrhyw un o ranbarthau Cymru. Llwyddodd Jones gyda’r trosiad, 21-17 i’r Dreigiau ar yr egwyl.

 

Yr Ail Hanner

Aeth Wasps yn ôl ar y blaen wedi pedwar munud o’r ail hanner, lledu da cyflym unwaith eto gan y tîm cartref a’r clo, Ross Filipo yn gorffen y symudiad ar y dde. Methodd Davies â’r trosiad ond roedd y cais yn ddigon i roi’r Wasps 22-21 ar y blaen.

Aeth y Dreigiau yn ôl ar y blaen diolch i fynydd o gic o’r llinell hanner gan Steffan Jones wedi 54 munud. Ciciodd Jones yn dda drwy’r gêm a pheth braf oedd gweld maswr ifanc o Gymru yn gwneud hynny yn dilyn cicio siomedig y tîm cenedlaethol yng Nghwpan y Byd.

Methodd yr eilydd o faswr, Nicky Robinson gyda chic hir at y pyst i’r Wasps wedi 64 munud a gôl adlam dri munud yn ddiweddarach. A dangosodd maswr ifanc y Dreigiau iddo sut i drosi gôl adlam wrth ymestyn mantais yr ymwelwyr i bum pwynt gyda saith munud ar ôl.

Yna, gyda dau funud yn weddill roedd hi’n ymddangos fod cais yr eilydd, Joe Simpson a throsiad Robinson yn mynd i dorri calon y Dreigiau ifanc, 29-27 i’r tîm cartref gydag eiliadau’n weddill.

Ond roedd digon o amser i ail ddechrau a digon o amser i Hugo Southwell droseddu a rhoi un cyfle olaf i faswr addawol y Dreigiau anelu at y pyst. Holltodd yntau’r pyst er mwyn sicrhau buddugoliaeth gofiadwy i’r Cymry.

Gêm gofiadwy ym Mharc Adams a dechrau gwych i’r Dreigiau yn y Cwpan LV.

Gwilym Dwyfor Parry