Y Gweilch 22-32 Northampton
Colli eu gafael ar fantais hanner amser a wnaeth y Gweilch yn Stadiwm Liberty heno wrth i Northampton daro’n ôl yn yr ail hanner i guro’r gêm o 32 -22.
Bu rhaid aros tan hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf ar gyfer cais cyntaf y gêm, Vasily Artemiev, yr asgellwr o Rwsia yn croesi’r llinell wedi 21 munud cyn i Ryan Lamb ychwanegu’r trosiad i’w gwneud hi’n 7-0 i’r ymwelwyr.
Ond tarodd y Gweilch yn ôl gyda dwy gic gosb lwyddiannus gan Matthew Morgan. Dim ond pwynt oedd ynddi wedi chwarter awr o chwarae ond ymestynodd Lamb fantais Northampton gyda chic gosb wedi 16 munud. 10-6 o blaid yr ymwelwyr.
Y Gweilch orffennodd yr hanner gryfaf, dwy gic gosb arall gan Morgan wedi 28 munud ac yna wedi 32 munud yn rhoi’r Gweilch ar y blaen am y tro cyntaf, 12-10 i’r tîm cartref. Yna cais i Sonny Parker ym munud olaf yr hanner a throsiad llwyddiannus Morgan yn ymestyn eu mantais i 19-10 ar yr egwyl.
Pethau yn edrych yn addawol i’r Gweilch ar hanner amser felly ond gêm Northampton oedd hi yn yr ail hanner diolch yn bennaf i ddau gais cynnar Dylan Hartley. Sgoriodd bachwr rhyngwladol Lloegr ddau gais wedi 42 munud a 55 munud a llwyddodd Lamb gydag un trosiad i roi Northampton ar y blaen o 22-19 gyda 25 munud yn weddill.
Roeddynt ymhellach ar y blaen ddau funud yn ddiweddarach diolch i gais Jon Clark a throsiad arall Lamb. 29-19 i’r Saeson ar yr awr.
Rhoddwyd llygedyn o obaith i’r Gweilch diolch i gic gosb Matthew Morgan ond 32-22 i Northampton oedd y sgôr terfynol diolch i gic gosb yr eilydd, Stephen Myler, ym munud olaf y gêm.
Canlyniad siomedig i’r Gweilch o flaen eu cefnogwyr eu hunain a byddant yn gobeithio anghofio am y gêm hon yn y Cwpan LV wrth ddychwelyd i’r Pro12 wythnos nesaf.