Caerdydd 5  Barnsley 3

Roedd Caerdydd yn edrych yn gwbl gyffyrddus gydag ugain munud i fynd, a’r sgôr yn 5 – 1. Ond yna, mi wnaeth Barnsley frwydro nôl, gan ddod â’r sgôr i 5-3. Caerdydd yn dal eu tir ac, felly, yn cipio’r pwyntiau ar ddiwedd gêm llawn goliau.

Dyma adroddiad ein gohebydd chwaraeon, Gwilym Dwyfor Parry:

Cafodd cefnogwyr Caerdydd wledd o goliau yn Stadiwm Dinas Caerdydd heddiw wrth i’w tîm guro Barnsley o 5-3.

Er gwaethaf y sgôr gymharol agos roedd hi’n hynod gyfforddus i Gaerdydd. Roedd y gêm drosodd i bob pwrpas wedi 70 munud â’r tîm cartref ar y blaen o 5-1 a dim ond tynnu’r sglein oddi ar y fuddugoliaeth a wnaeth dwy gôl gysur hwyr y Tykes.

Hanner Cyntaf Llawn Cyffro

Cafwyd digon o gyffro yn yr hanner cyntaf a fu dim rhaid aros yn hir ar gyfer gôl gyntaf y gêm. Pas dda gan Don Cowie yn dod o hyd i Kenny Miller ac yntau yn gorffen yn daclus i gornel isaf y rhwyd wedi dim ond 10 munud o chwarae.

Yna, wedi ychydig llai na hanner awr o chwarae bu rhaid i’r sgoriwr, Miller adael y cae ar ôl gwrthdrawiad â’i gyd chwaraewr, Ben Turner. Ond cymerodd ei eilydd, Joe Mason ddim llawer o amser i greu argraff. Cafodd ei lorio gan Rob Edwards i ennill cic rydd i’w dîm. Cymerodd Peter Wittingham y gic gan orfodi arbediad gan Luke Steele ond pwy oedd wrth law i roi’r bêl yn y rhwyd ond yr eilydd, Mason. 2-0 i Gaerdydd wedi 34 munud.

Ond roedd Barnsley yn ôl yn y gêm lai na munud yn ddiweddarach, Danny Drinkwater yn mynd am gôl gyda chic rydd o bellter a’r bêl yn adlamu’n ffodus braidd oddi ar amddiffynnwr Caerdydd ac i mewn i’r rhwyd.

Yna, cafwyd y drydedd gôl mewn pedwar munud wrth i Aron Gunnarsson adfer mantais ddwy gôl Caerdydd gyda gôl orau’r gêm. Derbyniodd y bêl gan Wittingham, rheoli gyda’i droed chwith a tharo chwip o foli gyda’i droed dde i gornel y gôl.

Caerdydd yn gymharol gyfforddus ar yr egwyl felly ac ar y blaen o 3-1.

Mwy o Goliau yn yr Ail Hanner

Roedd hi’n 4-1 wedi awr o chwarae, Masson a Cowie yn cyfuno’n dda yn un o symudiadau gorau’r gêm a Cowie yn rhwydo pedwaredd yr Adar Gleision.

Ddeg munud yn ddiweddarach roedd hi’n bump diolch i ail gôl Gunnarsson. Gwaith da gan Andrew Taylor ar yr asgell a chroesiad cywir yn dod o hyd i Gunnarsson ac yntau’n sgorio gôl dipyn haws na’i gyntaf.

Gôl gysur i Barnsley oedd y nesaf, croesiad Jacob Butterfield a pheniad Jimmy McNulty yn ei gwneud hi’n  5-2 gyda 8 munud yn weddill. Ac roedd hi’n ddiweddglo nerfus i Gaerdydd wedi i Ricardo Vaz Te ei gwneud hi’n 5-3 ddau funud yn ddiweddarach. Mae’n rhaid bod atgofion o Peterborough nos Fawrth yn llifo’n ôl i gefnogwyr Caerdydd ond doedd dim rhaid iddynt boeni wrth i’w tîm gadw eu gafael ar eu mantais y tro hwn. 5-3 y sgôr terfynol mewn gêm llawn goliau yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Tri phwynt holl bwysig i’r Adar Gleision felly wrth iddynt godi chwe safle i seithfed yn y Bencampwriaeth.