Wrecsam 0  Casnewydd 0

Dyma chi gêm lle roedd y ddau dîm yn brwydro hyd y diwedd ac yn chwilio’n ddyfal am gôl. Ofer fu eu hymdrechion, ond o leiaf maen nhw wedi sicrhau pwynt yr un am brynhawn o waith caled.

A dyma adroddiad ein gohebydd chwaraeon, Gwilym Dwyfor Parry:

Cyfartal ar y Cae Ras

Di sgôr oedd hi yn y gêm rhwng y ddau dîm o Gymru yng Nghyngres y Blue Square heddiw. Bydd Casnewydd yn dychwelyd o’r Cae Ras gyda phwynt yn dilyn perfformiad canmoladwy. Ond braidd yn siomedig fydd tîm Andy Morrell yn dilyn un o’u perfformiadau mwyaf di fflach ers iddo gymryd yr awenau.

Cafodd Casnewydd gyfle euraidd i fynd ar y blaen wedi munud yn unig o chwarae, cyfle gwych i Craig McAllister ond ei ergyd yn wan ac yn syth at Joslain Mayebi yn y gôl i Wrecsam.

Roedd Mayebi yn ei chanol hi eto wrth i Wrecsam gael cyfle gwych i sgorio’r gôl agoriadol wedi 35 munud. Daeth cic hir y golwr o hyd i Mathias Pogba, peniodd yntau ymlaen at Jake Speight ond methodd yr ymosodwr gyfle gorau’r gêm i’w dîm.

Bum munud cyn yr egwyl gorfodwyd Mayebi i arbed eto, y tro hwn o gic rydd Wayne Hatswell.

Casnewydd yn cael y gorau o’r hanner cyntaf felly ac roeddynt yn edrych yn gryf yn fuan yn yr ail hefyd. Ond ychydig iawn o gyfleoedd a welwyd wedi’r egwyl.

Roedd Morrell wedi defnyddio tri eilydd gyda hanner awr yn weddill a bu rhaid i Dean Keates chwarae’r chwarter awr olaf gydag anaf i’w ysgwydd. Ond roedd deg dyn a hanner Wrecsam yn ddigon cryf i warchod pwynt ac efallai bod y ddau dîm yn gymharol hapus gyda’r canlyniad yn y diwedd.

Mae Wrecsam yn aros ar frig y gynghrair ond mae eu mantais wedi ei dorri i ddau bwynt yn dilyn buddugoliaeth Fleetwood yn erbyn Caerfaddon. Mae Casnewydd ar y llaw arall yn aros yn safleoedd y gwymp ond bydd pwynt oddi cartref yn erbyn y tîm ar y brig yn siŵr o roi hyder i dîm Justin Edinburgh.